GWEITHWYR YN TROI YN GAFFERS.
Yn gymaint a bod y Darian a’i hamcan i amddiffyn y gweithwyr, y mae arnaf awydd dweyd gair neu ddau ar y pwnc uchod, sef y gweithiwr yn troi yn gaffer neu yn manager.
Cof gennyf am y tro yn neillduol, pan oedd cyfarfod y gweithwyr yn nhy y cyfaill a’r Undebwr selog, Rhosyn y Castell, yr oedd Bili Pell yn areithio ar y pryd yr oeddwn yn dyfod i mewn i’r ystafell. Y pwnc oedd rhyw ddimai yr oeddym yn dadleu amdani o hyd, ac yn ffaelu a’i chael; ond yr oedd Bili yn dweyd yn gryf iawn ar y pwnc y noson hono. Wedi ysbaido amser aeth y si ar led fod Bili i fod yn dipyn o stwmpyn: darfyddodd areithio, ac aeth Bili yn gynffonwr. Y mae llawer o’r dynionach hyn yn yr ardal yma. Rhag ofn i’r meistr glywed fod Bili yn areithio, ag iddo yntau ffaelu myn’d i’r swydd anrhydeddus, efe a aeth at ei dylwyth ei hun, y ‘cynffonwyr.’WORKERS TURNED GAFFERS. As much as the Tarian 1defends the workers, I need to say a word or two about workers who become gaffers or managers. I have a particular memory about a workers meeting at the Friends House and Unionist supporting, Rhosyn y Castell, Bili Pell was speaking as I entered the room. The subject was some point they had been churning over and failing to come to a conclusion; but Bili spoke with such conviction that night on the subject. Some time after however, there was a rumour he’d given up public speaking altogether and become a lackey for the company. There’s plenty of petty men like him around here. In case the masters suspected he still had sympathy for the Union, he went on to socialise with his new friends, the ‘Turncoats’.
ANTIHUBUG. Tarian y Gweithiwr. Rhagfyr 1, 1876.
Y mae yn yr ardal hon ryw bedwar wedi cael yr anrhydedd o fod yn gaffers, fel y dywedir, ac y mae ryw conference afnatsan ganddynt gyda’u gilydd. Eu henwau yw Johny Fairplay, Shoni Scotch Plod, Wil Talcen Pres, a Bili Wyth Bys. Y mae Johny yn myned yn mlaen yn lled dda; ond am y Scotch Plod, y mae ei gwmni ef wedi tori yn yfflon; nid yw y Talcen Pres chwaith yn tori llawer o shine hyd eto; y mae Bili Wyth Bys, druan, wedi bod ar y strike er ys llawer dydd. Ond y mae’n well ganddynt oll ddyoddef tipyn o sarhad na phlygu at y mandrel eto. Tipyn o beth yw cael yr enw o fod yn gaffer, ond y mae’n llawer mwy o glod cael bod yn manager; a lled debyg fod Johny Fairplay yn certificated manager, ond y mae arno ofn cadw stwmpyn o dano, rhag iddo weled y ffordd y mae’n cario ei fusnes yn mlaen. Y mae Scotch Plod heb un certificate, ond tipyn o beth yw bod yn gaffer-mae yr enw yn dipyn i chi’n gwel’d. Mae nhw yn dweyd fod Wil Talcen Pros wedi prynu certificate, ond ‘does dim tamaid o argoel iddo ef gael myned yn manager. Ond am Bili Wyth Bys, y mae ef wedi bwyta dau o’i fysedd o achos ei fod yn ffaelu cael lle i fod yu gaffer yn un man, ac y mae arno ormod ofn myn’d i dori glo.
In this area we have four who have the honour of being gaffers, as they say, and there’s some conference and scheming between all of them. Their names are Johny Fairplay, Shoni Scotch Plod, Wil Talcen Pres (Brass Forehead) and Bili Wyth Bys (Eight Fingers). Johny gets by fairly well; but as for Scotch Plod, his company has been shreaded to pieces; and neither has Talcen Pres broken much of a shine; Poor Bili Wyth Bys has been struck off for some time. But it’s better for all of them to suffer insults than bend down to work the pick-axe again. It’s quite a thing to have the name of being a gaffer, but it’s a step up being a manager; and it’s quite likely that Johny Fairplay is a certified manager, but he’s afraid he’ll have the stool pulled from underneath him if he doesn’t see the way business is done. Scotch Plod doesn’t have a certificate, but it’s quite a thing to be gaffer- the name is enough, you see. They say Wil Talcen Pres bought a certificate, but there’s no sign of him becoming manager. As for Bili Wyth Bys, he ate two of his fingers because he failed to become gaffer at one place and he’d no appetite to break coal.
Y mae’r ysgrifenydd wedi bod yn gweithio o dan y pedwar uchod, a’r goreu o honynt yw Fairplay. Hen stwrdyn yw Talcen Pres,—y mae digon o impudence ynddo i ddweyd wrth y gweithwyr, ‘Y mae’r amser da wedi darfod yn awr, rhaid i chwi gymeryd yr hyn ‘rwy’n gwel’d yn dda ei roddi i chwi am eich gwaith.’ Yn siwr i chwi, Mri.Gol., y mae Talcen Pres bron a hollti gan wynt, ac y mae yn brago cymaint ei fod wedi cael certificate, ac y gall ef fyned i’r lle y myno.
The author has worked under all four of these gaffers and the best of them is Fairplay. Talcen Pres is a harsh one, – there’s enough impudence in him to say to workers ‘the good times are here, you must take what I see fit to give you for you work.’ Truly Mr. Editor, Talcen Pres has almost split his sides with the amount of wind in him, and he brags so much about his certificate and how he can work anywhere he wants.
Y mae Fairplay, chwareu teg iddo, yn fwy boneddigaidd, ac wedi dod i’r swydd yn fwy anrhydeddus. Gwaith lled fine yw prynu enw iddo ei hun ond; am y Scotch Plod, chaiff ef un certificate byth yn y ffordd y mae’n myned yn mlaen; ‘dyw ef ddim haner mor ffals a Fairplay a Talcen Pres,-dau gadno i’r pen ydynt hwy, ac yn gallu dangos y ddau wyneb goreu a welais erioed; ac os bydd Bili Wyth Bys gyda hwynt, nid yw fawr iawn gwell. Y mae Rhagluniaeth yn ddoeth iawn, nid yw yn rhoddi llawer o ‘run’ i rai o’r fath hyn, onite byddai yn llawer gwaeth arnom nag ydyw.
Fairplay – fair to him – is more of a gentleman and comes to the position with some honour. It’s fine work buying a title for yourself but, as for Scotch Plod, he’ll never have a certificate the way he’s going; he’s not half as false as Fairplay and Talcen Pres, – two foxes through and through, and can present the two best faces that I’ve ever seen; and if Bili Wyth Bys is with them it’s not much better. Providence is very wise not to imbue these qualities to many, otherwise it would be much worse for us than it is.
Peth rhyfedd, onide, os caiff gweithiwr fyned yn gaffer, mae yn debyg iawn o fod yn waeth sort na dynion fo wedi cael eu codi o ranks fo uwch. Digon yw dweyd y tro hyn mai y dosbarth hwn yw y gwaethaf o lawer ar les y gweithiwr tlawd; ac yn gymaint ag fod Tarian y Gweithiwr yn eu hamddiffyn, y mae eisieu rhoddi y wialen ar eu gwarau ambell waith, i gael tynu y gwynt a’r chwydd yma sydd mor dueddol i lanw y gormeswyr calon galed uchod. Y rhai dylai amddiffyn y gweithiwr yw y rhai sydd wedi bod yn weithwyr eu hunain; ond nid felly y mae, gwaethaf y modd. Hyn yna hyd y tro nesaf. Anti Humbug.
It’s a strange isn’t it, when a worker becomes a gaffer, he’s much more likely to be the worse sort than men who have risen from higher ranks. It’s enough to say at this point that this class are much worse in helping the poor worker; and as much as Tarian y Gweithiwr may defend them, they need to be given the occasional rod across their shoulders, to expel all that wind and pomposity which tends to fill the hard hearted oppressor described above. The ones that should defend the workers are those who’ve been workers themselves; but unfortunately, this is not the way it is. That’s it until next time, Anti Humbug.
- Y Darian -newspaper[↩]