Ianto’r Shortar (Fachgian o Fro Morganwg.) Ysgrif I. — Golygfa Mewn Ffair (3)

Tudalen cyntaf / First Page (1)

(3) Nawr wi’n mynd i wed ticyn o’n hanas yn hunan wthoch chi lle bo chi’n meddwl bod dim cewc ddrwg 1gin i 2at Ianto’r Shortar a’i dylu 3. Bachgian i ffarmwr yn mro Morganwg otw i 4. Boiti 5 bum’ mlynadd yn ol i ath 6yn nhad tua ffair Penybont i gituno a’r morwn 7, a’r noswath hyny fe ddath yn ol a’r forwn gita fa 8. Mwn 9cwpwl o fishodd wetiny 10, fe fu row fudur 11achos bo fi a’r forwn yn ciaru 12. Ma’r ffarmwrs yn gros budur 13iddi plant i neud dim tocs a’r gwishon a’r morwnon, achos ma’n nhw’n styriad 14bod hyny, yn u ishelhau i’r gwarth a’r cwilydd mwya. Diwadd y row fu, beth bena 15, i nhiad ddarllen y Riot Act i ni’n dou; ta tro cynta gwelsa ne glywsa fa yn bod ni’n ciaru wet’ny y basa fa yn waco 16Nel off mwn mynad 17ag yn gneud i wllys i ngendar, ag am i Nel byrtoi i matal 18ar ben y tymor.

I’ll share a little of my own story in case you think I have some petty grievance against Ianto Shortar. I’m a farmer’s son from the Vale of Glamorgan. Five years ago my father set off to the Penybont fair to hire labour for the farm and returned that evening with a maid. After couple of months we had an awful row with my father as the maid and I had become close to each other. Now, farmers are severe with sons and daughters having relationships with any of the farm hands and maids as they consider it brings them into disgrace in the parish. At the end of the row however, he read the riot act to the two of us: next time he saw or heard of us together, he would throw Nel out in an instant and alter the name on his will from myself, over to my cousin. He then sternly told Nel to prepare to leave at the end of the season.

  1. argraff ddrwg[]
  2. gen i[]
  3. teulu[]
  4. ydw i[]
  5. tua, ambeutu[]
  6. aeth[]
  7. cytuno gyda’r morwyn[]
  8. gyda fe[]
  9. mewn[]
  10. misoedd wedi hynny[]
  11. ofnadwy[]
  12. caru ticyn[]
  13. llym iawn[]
  14. ystyried[]
  15. beth bynnag[]
  16. cerdded[]
  17. mewn funud[]
  18. paratoi i ymadael[]

Ianto’r Shortar (Fachgian o Fro Morganwg.) Ysgrif I. — Golygfa Mewn Ffair (2)

Tudalen cyntaf / First Page (1)

(2) Ma rhai yn gallid scwto 1’u hunen mlan yn well na’u gilydd lwar 2, ag ma nhw’n gwed 3fod Ianto’r Shorter, trw 4’i glecs a’i gelwdd 5,weti scwto ‘i blant a’i hunan ymlan yn dda diginig 6, hyny hed hibo 7a thros ben llwar ddylsa fod o’u blan 8nhw. Ma rhai’n gwed hed bod Ianto’n bribo’r Giaffar trw dalu am lot o wishci iddo fa ag ala amball i scwarnog iddo fa; ond wi ddim yn creti 9hyny, achas 10ma Ianto yn ormod am y wishci hynny i hunan. Am y scwarnocod ‘ny yto 11welws mo 12’u milgi nhw ond un scwarnog yriod 13, wth 14 drio’i dala, fe rytws 15i farwolath. Wara 16 teg i Ianto’r Shortar hed. Na, na, welws 17MacCinli (dyna enw’r milgi)ond un scwarnog yriod, withach 18dala rhai. Nit 19 dala scwarnogod odd 20i waith a, i waith a odd ciatw ciatha 21off orwth 22y ty, ac yr oedd y ci yn dallt 23i waith hed yn dda diginig.

Some can promote themselves better than others, and they say, through smooth talk and guile Ianto’r Shorter pushed himself and his family ahead very nicely indeed. They also say Ianto bribed the gaffer, plying him with plenty of whisky and catching the occasional rabbit for him. I don’t believe that as Ianto was too fond of the whiskey himself! Fair play to Ianto’r Shortar. His greyhound MacCinli only ever saw one rabbit and in an keen attempt to catch it ran headlong to his death. He was trained to keep cats out the house, not chase rabbits.

Tudalen nesa / Next Page >

  1. gallu gwthio[]
  2. llawer[]
  3. gweud[]
  4. trwy[]
  5. celwydd[]
  6. da iawn[]
  7. hefyd heibio[]
  8. blaen[]
  9. credu[]
  10. achos[]
  11. eto[]
  12. gwelodd e ddim[]
  13. erioed[]
  14. wrth[]
  15. rhedodd[]
  16. chwarae[]
  17. gwelodd[]
  18. gwaethach[]
  19. nid[]
  20. oedd[]
  21. cadw cathod[]
  22. oddi wrth[]
  23. deall[]

Ianto’r Shortar (Fachgian o Fro Morganwg.) Ysgrif I. — Golygfa Mewn Ffair (1)

(1) Pan bo crotyn biach 1yn dechra gwitho 2yn y gwaith Tin, peth cynta ma fa’n gial 3neud yw simi’r 4col rowls, a ma fa wetin 5yn cial i symud ymlan 6o hyd fel bo lle yn dwad 7, a falla 8cyn bo fa’n ddeg ar ucan od 9, gita ticyn 10o scwt, y bydd a weti 11wpo i hunan mlan 12yn shortar i enill 7s 6c ne whigan 13dydd. Run peth wetin 14yw hi gyta’r merchad 15yn gwmws. Ma nwnta’n cial ‘u wpo mlan 16hed o ticyn 17i dicyn i acor 18plets, ag i enill douswllt, ne hannar 19coron y dydd wth hyny 20.

When a lad starts at the tinworks he’ll first shift the cold rolls, then move as positions come up. Maybe, before he’s thirty and with drive, he’ll have pushed his way on to be a shortar earning 7 shillings, 6c a day. It’s similar with the women. They’ll be driven, bit by bit, to open plates and to earn 2 shillings or half a crown a day.

Tudalen nesa / Next Page (2)

Papur Pawb, Ebrill 10, 1897. IANTO’R SHORTAR [Gian Fachgian o Fro Morganwg.] (Cynwal)
  1. bachgen bach[]
  2. dechrau gweithio[]
  3. mae fe’n gael[]
  4. symud[]
  5. wedyn[]
  6. ymlaen []
  7. dod[]
  8. efalle[]
  9. ugain oed[]
  10. gyda tipyn[]
  11. wedi[]
  12. gwthio i hunain ymlaen[]
  13. deg[]
  14. Yr un peth wedyn[]
  15. gyda’r merched[]
  16. ymlaen hefyd[]
  17. tipyn[]
  18. agor[]
  19. neu hanner[]
  20. wrth hynny[]